Nodwch sut y bydd eich sefydliad a’ch prosiect yn mynd i’r afael â phedair egwyddor y rhaglen.
I’ch atgoffa, egwyddorion y rhaglen yw:
Perthnasoedd pontio: rydym am gefnogi sefydliadau cymunedol i gryfhau perthnasoedd rhwng pobl o wahanol gefndiroedd ac sydd â phrofiadau bywyd gwahanol.
Pŵer cymunedol: rydym am helpu'r cysylltiad cymunedol eang hwn i ddod yn llwyfan ar gyfer newid, fel y gall pobl siapio dyfodol eu cymdogaethau yn gadarnhaol.
Tegwch: rydym am gefnogi sefydliadau cymunedol i greu’r cysylltiad cymunedol pwerus hwn mewn cymdogaethau a chyda chymunedau sy’n profi anfantais strwythurol.
Trawsnewid arfer: rydym am gefnogi sefydliadau cymunedol i adeiladu o'u sefyllfa bresennol, boed hynny'n dreialu dull newydd, neu'n datblygu rhai sy'n bodoli eisoes mewn ffyrdd mwy neu wahanol.